The United States has been in the headlines over the past few weeks following the destruction caused by the recent hurricanes.

In the next episode of the series, Her yr Hinsawdd on S4C, Prof Siwan Davies will visit California to see the impact of climate change on the lives of the residents. And although it's severe drought rather than strong winds that will provide the focus, the effects of the devastation and heartbreak are strikingly similar.

At the Paris Climate Change Conference in 2015, 190 countries from around the globe agreed to reduce the amount of carbon dioxide produced. Barack Obama, President of the United States at the time, was among them. He was passionate about controlling the increase in the world's temperature and reducing the damage humans cause to the environment. In June this year, the current President of the United States, Donald Trump, withdrew this support.

With California suffering from severe drought, fatal fires and millions of trees being lost due to climate change, it is not surprising that the state's governor, Jeremy Brown, called Trump's decision a 'colossal mistake'. Brown has seen first-hand, the fatal impact of global warming in the most populated state of the US. Over the past 30 years, the number of natural fires has doubled and the side effects are tragic.

Dr Siwan Davies (right) goes to the US in S4C's Her yr Hinsawdd
Dr Siwan Davies (right) goes to the US in S4C's Her yr Hinsawdd

When filming Her yr Hinsawdd in California, Prof Davies met Donna Fink who lost her husband and all of her belongings in one of the growing number of fires in the state. In July 2016 nearly 3,000 firefighters fought a huge fire in the Santa Clarita area of Los Angeles. Ten thousand people were moved from their homes and the fire spread over 37,000 acres. Donna Fink has a very clear opinion about the drought and climate change in the state of California.

"I would say, in the past five years, that climate change has really affected us. It's been so very, very dry and I believe fires have increased in number in the past five years," explained Donna.

In an emotional visit, Prof Davies goes to the place where Donna's home stood before it burned to the ground, and where Donna's husband lost his life. Donna accompanies her - her first visit to the site since the tragedy.

"I lost everything in the fire, all I had were the clothes I was wearing. It takes a long time after the devastation to get your brain back ….everything burned…there will always be a void in my life. I wouldn't wish a fire on anyone," said Donna.

Siwan admits Donna's story really hit home and she finds it difficult to believe that some people refuse to accept that climate change is happening and poses a very real problem.

"The people of California live in fear, the lives of many are fragile and I have met people who have lost everything because of dangerous fires. It's clear it's not only poorer countries such as Africa and Costa Rica that face climate challenges, unexpected areas of the rich countries of the world also feel the effects."

Her yr Hinsawdd, Wednesday, September 27, 9.30pm, S4C, English and Welsh subtitles.

On demand: s4c.cymru; BBC iPlayer and other platforms.

Pobl Califfornia - bywyd bregus a byw mewn ofn

Mae'r Unol Daleithiau wedi bod yn y penawdau'n gyson dros yr wythnosau diwethaf oherwydd natur ddinistriol y corwyntoedd diweddar.

Yn rhifyn nesaf y gyfres, Her yr Hinsawdd ar S4C, bydd yr Athro Siwan Davies yn ymweld â Chaliffornia i weld effaith newid hinsawdd ar fywyd y trigolion. Ac er mai sychder difrifol yn hytrach na gwyntoedd cryfion sy'n cymryd ei sylw, yr un yw'r dinistr a thor-calon sy'n dod yn ei sgil.

Yng Nghynhadledd Newid Hinsawdd Paris ym 2015 fe gytunodd 190 o wledydd ar draws y byd i leihau maint y Carbon Deuocsid a gynhyrchir yn y byd. Roedd Barack Obama, Arlywydd yr Unol Daleithiau ar y pryd, yn eu plith, ac yn daer dros rwystro tymheredd y blaned rhag codi a lleihau'r niwed yr oedd pobl yn ei wneud i'r amgylchedd. Ym mis Mehefin eleni, fe dynnodd Arlywydd presennol yr Unol Daleithiau, Donald Trump, y gefnogaeth yma'n ôl.

Gyda thalaith Califfornia yn dioddef o sychder argyfyngus, tanau angheuol a miliynau o goed yn cael eu colli oherwydd newidiadau yn yr hinsawdd, does ryfedd i Lywodraethwr y dalaith, Jeremy Brown, alw penderfyniad Trump yn 'gamgymeriad anferthol'. Mae Brown wedi gweld effaith angheuol y cynhesu byd eang ar bobl yn nhalaith fwyaf poblog yr UDA. Dros y 30 mlynedd diwethaf mae'r nifer o danau naturiol wedi dyblu a'r sgil-effeithiau yn drasig.

Dr Siwan Davies in California for S4C's Her yr Hinsawdd
Dr Siwan Davies in California for S4C's Her yr Hinsawdd

Wrth ffilmio cyfres Her yr Hinsawdd yng Nghaliffornia bu'r Athro Siwan Davies yn cyfarfod Donna Fink a gollodd ei gŵr a phob darn o'i heiddo mewn un o'r nifer o danau ffyrnig sydd ar gynnydd yn y dalaith. Ym mis Gorffennaf 2016 bu bron i 3000 o ymladdwyr tân yn ymladd tân enfawr yn ardal Santa Clarita ger Los Angeles. Symudwyd deg mil o bobl o'u cartrefi a lledaenodd y tân dros 37,000 o erwau. Mae gan Donna Fink farn bendant iawn am y sychder yn y dalaith a'r newidiadau yn yr hinsawdd.

"Fe fyddwn i'n dweud, yn ystod y pum mlynedd diwethaf, bod newid yn yr hinsawdd wedi effeithio arnon ni'n fawr iawn. Mae wedi bod yn sych iawn, iawn a dwi'n credu bod y nifer o danau wedi cynyddu," meddai Donna.

Mewn ymweliad dirdynnol mae'r Athro Siwan Davies yn mynd i'r man lle safodd cartref Donna cyn iddo losgi yn ulw, a lle collodd ei gŵr ei fywyd. Mae’n mynd yno yng nghwmni Donna sy'n ymweld â'r safle am y tro cyntaf ers y trychineb.

"Mi gollais i bopeth yn y tân, y cwbl oedd gen i oedd y dillad roeddwn i'n eu gwisgo. Mae'n cymryd dipyn o amser ar ôl y difrod i gael eich meddwl yn ôl yn iawn; llosgodd bopeth. Bydd yna wastad wagle yn fy mywyd a fyddwn i byth yn dymuno tân ar neb byth," dywed Donna.

Mae Siwan yn cyfaddef iddi gael ei sobri gan stori Donna ac yn ei chael hi'n anodd derbyn barn rhai pobl sy'n gwrthod derbyn bod newid yn yr hinsawdd yn digwydd ac yn broblem real.

"Mae pobl Califfornia yn byw mewn ofn, mae bywydau rhai mor fregus a dwi wedi cyfarfod pobl sydd wedi colli popeth oherwydd tanau peryglus. Mae'n brawf nad gwledydd tlawd fel Affrica a Costa Rica yn unig sy'n wynebu heriau'r hinsawdd, mae ardaloedd annisgwyl gwledydd cyfoethog y byd yn teimlo'r effeithiau hefyd."

Her yr Hinsawdd, nos Fercher, Medi 27, 9.30pm, S4C isdeitlau Cymraeg a Saesneg.

Ar alw: s4c.cymru; BBC iPlayer a llwyfannau eraill.